Mae Marged yn sgwrsio efo Gwenllian Ellis, enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 2023 am ei llyfr cyntaf, Sgen i’m Syniad: Snogs, Secs, Sens a thrafod y rhesymau pam mae Gwenllian yn ‘sgwennu, yr ymateb i’w llyfr, gwthio ffiniau cymdeithasol drwy ysgrifennu a be’ sy’n dod nesaf. Y llyfr a awgrymir gan Gwenllian yn y bennod hon yw Tomorrow, and Tomorrow, and Tomorrow gan Gabrielle Zevin.