Sgribls Pennod 18: Lleucu Gwenllian

Mae Marged yn sgwrsio gyda'r arlunydd ac awdur Lleucu Gwenllian am ei arlunwaith, y broses o greu a sgwennu nofelau graffeg, cymryd y cyfleoedd sydd ar gael a phwysigrwydd dilyn dy reddf.

Sgribls Pennod 17: Rhian Siôn

Mae Marged yn sgwrsio gyda Rhian Siôn am ei phrofiadau yn cyhoeddi ei nofel cyntaf, Gyda’n Gilydd, ac yn trafod siwrne Rhian i fod yn awdur, y pethau sy’n ei hysbrydoli a’i chyngor ar gyfer awduron newydd.

Sgribls Pennod 16: Gwenno Gwilym

Gwestai pennod cyntaf y drydedd gyfres o Sgribls yw Gwenno Gwilym, enillydd Gwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn 2025 a Gwobr Barn y Bobl 2025 gyda'i nofel cyntaf, dwyieithog – V + Fo.

Sgribls Pennod 15: Rhiannon Lewis

Mae Marged yn sgwrsio gyda Rhiannon Lewis am ei nofel diweddaraf, The Significance of Swans, ei gyrfa fel awdur a sut mae ei dull ysgrifennu yn amrywio gyda bob llyfr.

Sgribls Pennod 14: Simon Chandler

Mae Marged yn sgwrsio gyda’r awdur Simon Chandler am ei nofel gyntaf, Llygad Dieithryn, ei siwrne’n dysgu’r Gymraeg a heriau ysgrifennu nofel, ei angerdd a’i waith er mwyn diwylliant Cymru, a’r pethau sy’n ei ysbrydoli.

Sgribls Pennod 13: Meinir Pierce Jones

Gwestai’r bennod hon yw Meinir Pierce Jones, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2022 efo’i nofel hanesyddol, Capten, a golygydd yng Ngwasg y Bwthyn. Ceir trafodaeth am ddyletswydd awdur tra’n ysgrifennu am gymeriadau hanesyddol, pwysigrwydd dyfalbarhau, a beth sy’n gwneud stori arbennig o safbwynt golygydd.

Sgribls Pennod 12: Sioned Erin Hughes

Gwestai pennod cynta’r ail gyfres o Sgribls yw Sioned Erin Hughes, enillydd y Fedal Ryddiaith 2022 gyda’i chyfrol Rhyngom. Mae Erin eisioes wedi cyhoeddi O’r Rhuddin, casgliad o gerddi a myfyrdodau, a wedi curadu a golygu Iaith Heb Ffiniau, cyfrol am fagu’r Gymraeg dramor.

Sgribls Pennod Bonws: Mari George

Mae Marged yn holi Mari George, awdur Sut i Ddofi Corryn ac enillydd Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2024 am ei llwyddiant, ei siwrne i gyhoeddi, a’i phroses ysgrifennu.

Sgribls Pennod 10: Bethan Gwanas

Mae Marged yn sgwrsio gyda Bethan Gwanas am ei nofel diweddaraf, y pethau sy’n ei hysbrydoli, sut mae’n ymdopi efo cyfnodau pan nad yw’r geiriau’n llifo, a’i chyngor gwerthfawr i awduron newydd.

Sgribls Pennod 9: Rebecca Thomas

Mae Marged yn sgwrsio gyda’r awdur Rebecca Thomas am ei llyfrau, ei chyfnod fel awdur preswyl Parc Genedlaethol Bannau Brycheiniog, ymchwilio hanes cyfoethog Cymru, a heriau penodol ysgrifennu ar gyfer oedolion ifanc.