Sgribls Pennod 14: Simon Chandler

Mae Marged yn sgwrsio gyda’r awdur Simon Chandler am ei nofel gyntaf, Llygad Dieithryn, ei siwrne’n dysgu’r Gymraeg a heriau ysgrifennu nofel, ei angerdd a’i waith er mwyn diwylliant Cymru, a’r pethau sy’n ei ysbrydoli.

Sgribls Pennod 13: Meinir Pierce Jones

Gwestai’r bennod hon yw Meinir Pierce Jones, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2022 efo’i nofel hanesyddol, Capten, a golygydd yng Ngwasg y Bwthyn. Ceir trafodaeth am ddyletswydd awdur tra’n ysgrifennu am gymeriadau hanesyddol, pwysigrwydd dyfalbarhau, a beth sy’n gwneud stori arbennig o safbwynt golygydd.

Sgribls Pennod 12: Sioned Erin Hughes

Gwestai pennod cynta’r ail gyfres o Sgribls yw Sioned Erin Hughes, enillydd y Fedal Ryddiaith 2022 gyda’i chyfrol Rhyngom. Mae Erin eisioes wedi cyhoeddi O’r Rhuddin, casgliad o gerddi a myfyrdodau, a wedi curadu a golygu Iaith Heb Ffiniau, cyfrol am fagu’r Gymraeg dramor.

Sgribls Pennod Bonws: Mari George

Mae Marged yn holi Mari George, awdur Sut i Ddofi Corryn ac enillydd Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2024 am ei llwyddiant, ei siwrne i gyhoeddi, a’i phroses ysgrifennu.

Sgribls Pennod 10: Bethan Gwanas

Mae Marged yn sgwrsio gyda Bethan Gwanas am ei nofel diweddaraf, y pethau sy’n ei hysbrydoli, sut mae’n ymdopi efo cyfnodau pan nad yw’r geiriau’n llifo, a’i chyngor gwerthfawr i awduron newydd.

Sgribls Pennod 9: Rebecca Thomas

Mae Marged yn sgwrsio gyda’r awdur Rebecca Thomas am ei llyfrau, ei chyfnod fel awdur preswyl Parc Genedlaethol Bannau Brycheiniog, ymchwilio hanes cyfoethog Cymru, a heriau penodol ysgrifennu ar gyfer oedolion ifanc.

Sgribls Pennod 8: Llyfrau Melin Bapur

Mae Marged yn sgwrsio gyda Adam Pearce am ei gwmni cyhoeddi, Llyfrau Melin Bapur. Ceir trafodaeth am gyhoeddi’n annibynnol, heriau sefydlu busnes newydd, a ymroddiad y cwmni i gyhoeddi llenyddiaeth Cymraeg o’r 19eg ganrif, a fyddai fel arall ar goll.

Sgribls Pennod 7: Joanna Davies

Mae Marged yn sgwrsio gyda Joanna Davies, awdur y gyfres Bwci-Bo, am ei gyrfa, y broses o ysgrifennu llyfrau stori a llun, y profiad golygyddol, a’r her o farchnata a hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.

Sgribls Pennod 6: Meleri Wyn James

Gwestai’r bennod hon yw Meleri Wyn James, enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 efo’i nofel diweddaraf, Hallt. Mae Marged a Meleri’n trafod llwyddiant, sut i ymdopi efo methiant, sut mae Meleri’n magu syniadau a mynd ati i ysgrifennu, a’i gwaith fel golygydd creadigol. Y llyfrau a awgrymir gan Meleri yw Yr Apel/The Appeal […]

Sgribls Pennod 5: Elidir Jones

Gwestai’r bennod yma yw’r sgriptiwr a’r awdur Elidir Jones, enillydd Llyfr y Flwyddyn 2020 Categori Plant a Phobl Ifanc efo’i nofel ffantasi Yr Horwth. Ceir trafodaeth am greu bydoedd ffantasi, ymchwilio chwedlau gwerin er mwyn ysgrifennu straeon arswyd, sut mae ysgrifennu sgriptiau yn cymharu a ‘sgwennu nofelau, a llawer mwy yn y bennod hon!