Sgribls: Rhagflas/ Trailer

Blas byr o Sgribls – y bodlediad i unrhyw un sydd a diddordeb mewn ysgrifennu, llyfrau a diwydiant cyhoeddi Cymru. An introduction to Sgribls – the podcast for anyone with an interest in writing, books and the publishing industry in Wales.

Sgribls Pennod 4: Rachel Lloyd

Yn y bennod hwn mae Marged yn sgwrsio efo Rachel Lloyd, Pennaeth Cyhoeddi a Golygydd Creadigol yn Atebol. Mae’r bennod yma yn llawn gwybodaeth am y diwydiant cyhoeddi a’r broses golygu, a mae Rachel yn rhannu cyngor gwerthfawr i bawb sydd a diddordeb mewn gyrfa yn y maes cyhoeddi, ac i awduron sy’n cysidro cyflwyno […]

Sgribls Pennod 3: Nicola Edwards

Mae Marged yn sgwrsio efo’r awdur Nicola Edwards am ei nofel cyntaf, This Thing of Darkness, a thrafod ymchwilio’r nofel, y broses ysgrifennu, yr her o ‘sgwennu stori gwreiddiol o fewn cyfyngiadau llenyddol, a’i phrosiect cyffrous nesaf. Y llyfr a awgrymir gan Nicola yn y bennod hon yw Demon Copperhead gan Barbara Kingsolver.

Sgribls Pennod 2: Gwenllian Ellis

Mae Marged yn sgwrsio efo Gwenllian Ellis, enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 2023 am ei llyfr cyntaf, Sgen i’m Syniad: Snogs, Secs, Sens a thrafod y rhesymau pam mae Gwenllian yn ‘sgwennu, yr ymateb i’w llyfr, gwthio ffiniau cymdeithasol drwy ysgrifennu a be’ sy’n dod nesaf. Y llyfr a awgrymir gan Gwenllian yn y […]

Sgribls Pennod 1: Rebecca Roberts

Mae Marged yn sgwrsio gyda Rebecca Roberts, enillydd gwobr Tir-Na-Nog 2021 a Llyfr y Flwyddyn 2021 categori Plant a Phobl Ifanc, am ‘sgwennu yn y Gymraeg a’r Saesneg, ei siwrne at gyhoeddiad a jyglo teulu a gyrfa.Y llyfrau a awgrymir gan Rebecca yn y bennod hon yw:The Short Knife gan Elen CaldecottRepublic gan Nerys WilliamsSugar […]